Hafan > Polisi Preifatrwydd
Polisi Preifatrwydd
CYFLWYNIAD
Mae Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn o ddifri ynghylch a rheoli data personol a gwybodaeth arall, mae ein dyletswyddau a’n rhwymedigaethau craidd wedi eu hamlinellu o fewn ein Polisi Diogelu Data, sydd ar gael gan y Rheolwr ar gais.
Mae’r datganiad hwn yn rhoi trosolwg o’r polisi i gyflogeion, is-gontractwyr, gwirfoddolwyr ac aelodau Bwrdd sydd wedi rhannu gwybodaeth gyda ni.
Rydym yn ymrwymedig i brosesu data yn unol â’n cyfrifoldebau dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), a gaiff eu goruchwylio a’u rheoleiddio gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef y corff rydym wedi cofrestru â nhw.
Anelwn i gael prosesau cadarn mewn lle ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau y caiff preifatrwydd ei ddiogelu. Pe byddem yn gofyn i unrhyw un ddarparu gwybodaeth benodol y gellir eu hadnabod ohoni, gallent fod yn sicr mai dim ond yn unol â’r polisi hwn y caiff ei defnyddio.
PWRPAS
Rydym yn casglu, cael a defnyddio gwybodaeth bersonol ar gyfer dibenion sefydliadol mewnol yn cynnwys, ac heb fod yn gyfyngedig i:
- wella cynnwys a darpariaeth gwersi, cyrsiau, cyngherddau a gweithgareddau cysylltiedig eraill
- prosesu ceisiadau am wersi
- prosesu mynediad i gyrsiau
- trefnu gwersi, cyrsiau, cyngherddau, ensembles rhanbarthol a sirol, teithiau a digwyddiadau
- gweinyddu’r ensembles rhanbarthol a sirol
- codi arian
- gweinyddu cofnodion aelodaeth
- hyrwyddo’r gwasanaeth cerdd drwy gysylltiadau cyhoeddus a marchnata
- gorfodi’n amodau a thelerau a’n gweithdrefnau casglu taliadau
- ac mewn unrhyw ddull rhesymol arall er mwyn gweithredu’n hamcanion sefydliadol neu i ddarparu gwasanaeth penodol
CATEGORÏAU DATA
Er mwyn gweithredu yn unol a’r pwrpas gallwn gasglu a chael y wybodaeth bersonol ganlynol:
- Manylion cyswllt personol fel enw, teitl, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost preifat
- Dyddiad geni
- Rhywedd
- Gwybodaeth cyswllt mewn argyfwng a manylion pherthynas agosaf
- Rhif Yswiriant Cenedlaethol
- Manylion banc, treth a gwybodaeth cyflogres
CYFYNGU PWRPAS
Bydd data personol ond yn cael ei gasglu ar gyfer dibenion penodol, eglur a chyfreithlon ac ni chaiff ei brosesu ymhellach mewn unrhyw ddull nad yw’n gydnaws â’r dibenion hynny.
Ni fyddwn yn cadw data personol ar ffurf sy’n caniatáu adnabod gwrthrych y data am yn hirach nag sydd angen ar gyfer diben neu ddibenion busnes cyfreithlon y gwnaethom ei gasglu’n wreiddiol, caiff hyn ei nodi o fewn ein Cofrestr Ased Data.
CANIATÂD
Byddwn yn ceisio caniatâd gwrthrychau data i brosesu eu data personol, gall caniatâd i brosesu gael ei dynnu yn ôl unrhyw bryd a chaiff hyn ei anrhydeddu’n brydlon. Noder, os bydd caniatâd yn cael ei dynnu yn ôl, neu os nad ydi gwybodaeth a geisir yn cael ei rannu, gallai hynny effeithio ar y gwasanaethau a geisir.
HAWLIAU A CHEISIADAU
Mae gennych hawliau penodol pan ddaw hi i sut yr ydym yn trin eu data personol. Mae’r rhain yn cynnwys hawliau i:
- dynnu caniatâd i brosesu yn ôl unrhyw bryd;
- derbyn gwybodaeth benodol ynghylch gweithgareddau prosesu’r rheolydd data;
- gwneud cais i gael mynediad i’w data personol yr ydym yn ei ddal;
- atal ein defnydd o’u data personol ar gyfer dibenion marchnata uniongyrchol;
- gofyn i ni ddileu data personol os nad yw’n angenrheidiol mwyach yng nghyswllt y dibenion y cafodd ei gasglu neu ei brosesu ar eu cyfer neu gywiro data anghywir neu gwblhau data anghyflawn;
- cyfyngu prosesu mewn amgylchiadau penodol;
- cael gwybod am weithredu’n groes i ddata personol sy’n debygol o arwain at risg uchel i’w hawliau a’u rhyddid;
- gwneud cwyn i’r awdurdod goruchwyliol